Cwpan Arabaidd FIFA

Cwpan Arabaidd FIFA
Organising bodyUndeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabiaidd
FIFA (from 2021)
Founded1963 (1963)
RegionByd Arabaidd (UAFA)
Number of teams16 (finals)
Current championsBaner Moroco Moroco (1st teitl)
Most successful team(s) Irac (4 teitl)
WebsiteGwefan Swyddogol
Rhifyn 2021
Logo'r Gwpan yn 2012

Mae Cwpan Arabaidd FIFA neu Cwpan Pêl-droed Arabia neu Cwpan y Cenhedloedd Arabaidd neu'n fyr, y Cwpan Arabaidd (Arabeg: كأس الأمم العربية, Kaʾs al-Umam al-ʿarabiyya, Saesneg: FIFA Arab Cup; Arab Cup; Arab Nations Cup) yn gystadleuaeth bêl-droed i dimau cenedlaethol y byd Arabaidd, a drefnir gan Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Arabaidd (UAFA) ac fe'i cynhaliwyd ar gyfnodau afreolaidd er 1963. Roedd twrnamaint 1992 yn rhan o'r Gemau Pan-Arabaidd. Yn 2009 cafodd y gystadleuaeth ei chanslo yn ystod y cymal cymhwyso. Yn ystod yr egwyl hir rhwng 1966 a 1985, chwaraewyd Cwpan y Cenhedloedd Palesteinaidd yn ei lle, er ei bod yn dal yn aneglur ai parhad o dan enw gwahanol yn unig ydoedd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search